2014 Rhif 42 (Cy. 4)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) (Diwygio) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mewnosododd Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (mccc 1) ddarpariaethau newydd yn Rhan 7 o Ddeddf Addysg 2002. Mae Rhan 7 yn ymwneud â’r cwricwlwm mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru. O ganlyniad i Ran 1 o’r Mesur, mae’r cwricwlwm mewn ysgolion uwchradd a gynhelir yng Nghymru wedi ei ehangu i gynnwys hawlogaethau disgyblion mewn cwricwlwm lleol yng nghyfnod allweddol 4.

Gwnaeth Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) 2009 (“Rheoliadau 2009”) ddarpariaeth o ran llunio’r cwricwlwm lleol, y dewisiadau y caiff disgybl eu gwneud, penderfyniad y pennaeth o ran hawlogaeth, a phenderfyniad y pennaeth i ddileu hawlogaeth.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2009 fel bod rhaid i awdurdod lleol gynnwys lleiafswm o 25 o gyrsiau yn ei gwricwlwm lleol, y mae rhaid i 3 ohonynt fod yn rhai galwedigaethol (rheoliad 2(a)). Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diddymu rheoliadau 5 i 7 o Reoliadau 2009 fel nad oes gofyniad bellach i gyrsiau astudio yn y cwricwlwm lleol, na dewis y disgybl o gyrsiau cwricwlwm lleol, gael gwerth lleiafswm o bwyntiau (rheoliad 2(b)).

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn dileu’r geiriau diangen ym mhennawd rheoliad 11 o Reoliadau 2009 (rheoliad 2(c)).

 


2014 Rhif 42 (Cy. 4)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) (Diwygio) 2014

Gwnaed                                13 Ionawr 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       15 Ionawr 2014

Yn dod i rym                        5 Chwefror 2014

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 116A(5), 116D(2) a 210 o Ddeddf Addysg 2002([1]) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) (Diwygio) 2014 a deuant i rym ar 5 Chwefror 2014.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) 2009

2. Mae Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) 2009([2]) wedi eu diwygio fel a ganlyn—

(a)     yn lle rheoliad 4 rhodder—

Lleiafswm cyrsiau astudio mewn cwricwla lleol

4.—(1) Rhaid i’r cwricwlwm lleol ar gyfer pob ysgol uwchradd a gynhelir yng Nghymru gynnwys lleiafswm o 25 o gyrsiau astudio ar lefel 2 NQF, y mae’n rhaid i o leiaf 3 ohonynt fod yn rhai galwedigaethol.

(2) Caiff awdurdod lleol gynnwys cwrs astudio ar lefel 1 NQF yn hytrach na chwrs ar lefel 2 NQF yn y cwricwlwm lleol ar gyfer ysgol uwchradd a gynhelir o fewn ei ardal os nad yw’r un cwrs ar gael ar lefel 2 NQF i ddisgyblion yng nghyfnod allweddol pedwar.”;

(b)     hepgorer rheoliadau 5 i 7; ac

(c)     ym mhennawd rheoliad 11 hepgorer “a hysbysiadau’n hepgor yr hawl i gael adolygiad”.

 

 

Huw Lewis

 

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

 

13 Ionawr 2014

 



([1])           2002 p.32. Mewnosodwyd adran 116A gan adran 4 o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (mccc 1). Mewnosodwyd adran 116D gan adran 7 o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009.

([2])           O.S. 2009/3256 (Cy.284), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2010/1142 (Cy.101) ac O.S. 2010/2431 (Cy.209).